Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Hydref 2024

Amser: 09.00 - 09.45
 


Remote/ private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gymraeg drwy drochi hwyr (45 munud)  Gohiriwyd tan 8 Hydref 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Tata Steel (45 munud)  

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl y ddadl fer.  

Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 8 Hydref 2024

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Partneriaeth gymdeithasol (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gymraeg drwy drochi hwyr (45 munud)gohiriwyd o 1 Hydref

 

Dydd Mawrth 15 Hydref 2024

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cyfleoedd economi gylchol a chanlyniadau Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024 (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Addysg drydyddol (45 munud)

 

Gwnaeth Darren Millar gais am ddatganiad llafar ar newidiadau i wasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gwnaeth Heledd Fychan hefyd gais am ddatganiadau llafar ar ganfyddiadau'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac ar gydweithredu trawsffiniol yn y GIG. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n rhoi ystyriaeth i'r materion a godwyd.  

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 9 Hydref 2024 –

 

 

Dydd Mercher 23 Hydref 2024 –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) Julie Morgan AS (Gogledd Caerdydd) 60 munud)

·         Dadl ar y cyd ar adroddiadau Pwyllgorau ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Cyswllt Ffermio (90 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Cymdeithas heb arian parod? P–06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod (30 munud)

 

Nododd y Pwyllgor Busnes yr amser gorffen amcangyfrifedig o tua 20.10 ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar 23 Hydref.

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 29 Tachwedd 2024.

 

</AI8>

<AI9>

5       Gwaith Gweithdrefnol

</AI9>

<AI10>

5.1   Adolygiad o’r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried y canllawiau cyfredol ar drafodion rhithwir a hybrid yn dilyn trafodaethau â’u grwpiau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid diwygio'r canllawiau'n ymwneud â'r lleoliadau lle y gall Aelodau ymuno â thrafodion, i nodi na fyddai Aelodau'n gallu cyfrannu tra byddant mewn cerbyd nac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylid disgwyl i Aelodau sy'n bresennol yn rhithiol gadw at yr un safonau ymddygiad a chwrteisi â'r rhai sy'n bresennol yn y Siambr.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i dreialu cyflwyno system lle byddai'n ofynnol i Aelodau sy'n dymuno pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn hysbysu'r Llywydd ymlaen llaw.

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd newidiadau drafft i'r canllawiau, gan gynnwys y rhai a gynigiwyd gan Fforwm y Cadeiryddion ynghylch trafodion pwyllgorau, a chynigion yn ymwneud â'r trefniadau ar gyfer treialu hysbysiad ymlaen llaw o fwriad i bleidleisio o bell, yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

</AI10>

<AI11>

5.2   Paratoi at y Seithfed Senedd: Cynigion sy'n codi o ddiwrnod cwrdd i ffwrdd Comisiwn y Senedd / y Pwyllgor Busnes

Cyflwynodd y Dirprwy Lywydd gynnig ar gyfer sefydlu pwyllgor newydd i ystyried ffyrdd o weithio yn y dyfodol a pharatoadau ar gyfer y Seithfed Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gynnig i'r Senedd y dylid sefydlu pwyllgor, gyda'r trefniadau a ganlyn:

 

o   dylai'r Pwyllgor gael ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd mewn rôl sydd heb bleidlais (ac eithrio mewn achos pan fydd angen pleidlais fwrw);

o   dylai fod gan y pwyllgor bedwar aelod (dau yn cynrychioli Llafur Cymru, un yn cynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig, ac un yn cynrychioli Plaid Cymru);

o   o'r ddau le a ddyrennir i grŵp Llafur Cymru, dylai aelod o'r llywodraeth lenwi un, ac un lle gael ei lenwi gan aelod mainc gefn, yn cynrychioli'r grŵp Llafur;

o   gall cadeirydd y pwyllgor ystyried gwahodd Jane Dodds AS a Rhys ab Owen AS i gymryd rhan yng ngwaith y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, neu ddarparu tystiolaeth i lywio'r gwaith hwnnw;

o   cadeirydd y Pwyllgor i ystyried trefniadau ar gyfer galluogi pob aelod o'r pwyllgor i gael un person i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor mewn rôl gefnogol.

 

Mynegodd y Rheolwyr Busnes gefnogaeth mewn egwyddor i feysydd eang posibl gael eu cynnwys o fewn cylch gwaith y pwyllgor ac i hyn gael ei ddatblygu ymhellach fel rhan o gynnig i'r Senedd.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>